Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio yn Nenmarc ar amheuaeth o lofruddio dyn o Sweden yn Llundain ar noswyl Nadolig.

Cafodd Flamur Beqiri, 36, ei saethu’n farw o flaen ei deulu yn Battersea wrth iddo fynd adref gyda’i wraig a’u plentyn bach.

Fe wnaeth yr ymosodwr ddianc ar droed yn dilyn yr ymosodiad, ac mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ym maes awyr Copenhagen.

Y disgwyl yw y bydd yn cael ei estraddodi i wledydd Prydain i wynebu’r cyhuddiad.

Bu Flamur Beqiri, oedd o dras Albanaidd, yn byw yn Llundain ers tua phum mlynedd a’r gred yw ei fod yn frawd i Misse Beqiri, un o sêr y gyfres deledu Real Housewives of Cheshire.

Mae lle i gredu ei fod e wedi troseddu yn Sweden yn y gorffennol ac y gall fod cyswllt rhwng hynny a’i farwolaeth.