Mae busnesau wedi rhybuddio y gall prisiau godi os na fydd llywodraeth Prydain yn cydymffurfio â rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Roedden nhw’n ymateb i sylwadau gan y Canghellor Savid Javid y bydd busnesau’n gorfod addasu i reoliadau annibynnol gan Brydain – pryd y gwnaeth gydnabod na fyddai pob busnes yn elwa.

Meddai prif weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod, Tim Rycroft:

“Fe fydd hyn yn peri pryder mawr i wneuthurwyr bwyd a diod. Mae awgrym y Canghellor yn gyfystyr â diwedd ar fasnachu di-rwystr.

“Fe fydd yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau addasu i wiriadau, prosesau a gweithdrefnau costus a newydd, a fydd yn gweithredu fel rhwystr i fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd a gall yn hawdd arwain at godiadau mewn prisau.”
Yr un oedd neges Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI).

“I lawer o gwmnïau, mae cysondeb mewn rheoliadau yn cefnogi swyddi ac yn eu helpu i fod yn gystadleuol – yn enwedig yn rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig Prydain.”

Dywedodd arweinydd dros dro y Democratiaid Rhyddfrydol, Ed Davey, ei fod yn hen bryd i’r Canghellor wrando ar ddiwydiant.

“Mae’r prif ddiwydiannau ledled y wlad wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro bod cysondeb rheoliadau ledled Ewrop wedi bod yn llwyddiant wrth helpu creu a chynnal miliynau o swyddi,” meddai.

“Mae peryglu hyn i gyd er mwyn amcanion ideolegol pur yn gwbl anghyfrifol.”