Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn “hyderus” bod y teulu brenhinol yn mynd i “sortio” rôl y Tywysog Harry a Meghan Markle yn y dyfodol.

Dywed Dug a Duges Sussex eu bod yn awyddus i “gamu’n ôl” o fod yn aelodau blaenllaw o’r teulu brenhinol.

“Dwi’n hyderus y gwnawn nhw sortio pethau allan, a gwneud hynny’n haws heb sylwadau gena i,” meddai Boris Johnson.

Mae’r Frenhines wedi cytuno i “gyfnod o drawsnewidiad” lle bydd y Tywysog Harry a Meghan Markle yn byw yng Nghanada a’r Deyrnas Unedig.

Dywed ei bod hi wedi bod “hollol gefnogol” i ddymuniadau’r ddau, ond byddai’ “well ganddi” petai’r ddau fel aelodau blaenllaw o’r teulu brenhinol.