Wrth lansio’i ymgyrch i arwain y Blaid Lafur ym Manceinion heddiw, mae Syr Keir Starmer yn addo herio Boris Johnson yn ddidrugaredd os bydd yn ennill.

Ef yw’r ffefryn clir ymysg Aelodau Seneddol Llafur i olynu Boris Johnson, a’r cyntaf o blith y chwe ymgeisydd i sicrhau’r 22 o enwebiadau o’u plith i allu mynd drwodd i rownd nesaf y gystadleuaeth.

“Yr her i Lafur heddiw yw amddiffyn ein gwerthoedd, cynnal ein radicaliaeth, a gwneud hynny’n berthnasol i fywydau pob dydd pobl,” meddai.

“Rhaid inni ailadeiladu ymddiriedaeth pobl yn Llafur fel grym er daioni a newid gwirioneddol.”

Dywedodd fod yn rhaid i’w blaid fynd ati o ddifrif i adennill cefnogaeth pleidleiswyr ledled Lloegr, yr Alban a Chymru a gefnodd arni’r mis diwethaf.

“Os caf fy ethol yn arweinydd, byddaf yn herio Boris Johnson yn ddidrugaredd yn y Senedd,” meddai. “Fe fyddwn ni’n cysylltu’n gwrthwynebiad yn y senedd â’r mudiad Llafur a grymoedd ehangach yn ein gwlad nad oes arnyn nhw eisiau pum mlynedd arall o gamreolaeth y Torïaid.

“Ac fe fyddwn ni’n clymu hyn â strategaeth etholiadol sy’n canolbwyntio’n ddiflino ar ddod â Llafur yn ôl i lywodraeth.”