Fe allai Llywodraeth Gogledd Iwerddon gael ei hadfer ddydd Gwener (Ionawr 10) yn dilyn trafodaethau dros nos.

Roedd llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi cytundeb drafft yn hwyr nos Iau (Ionawr 9) gan annog y pum prif blaid i’w arwyddo ac adfer grym yn Stormont.

Daw hyn ar ôl i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Julian Smith ysgrifennu at lefarydd Stormont, Robin Newton, yn galw arno i drefnu cyfarfod ddydd Gwener, gan roi her i’r pleidiau ddychwelyd i’r Senedd.

Mae’r DUP, y blaid sydd wedi cael y bai am rwystro cytundeb ym mis Rhagfyr, wedi ymateb yn bositif i’r cytundeb drafft.

Fe fydd y sylw nawr yn troi at Sinn Fein, y blaid arall a fydd yn gorfod arwyddo’r cytundeb er mwyn adfer y llywodraeth ddatganoledig.

Mae’n dilyn tair blynedd o drafodaethau rhwng y pleidiau a dywedodd Julian Smith mai “dyma’r amser i wneud penderfyniad” a bod yn cynigion yn “deg”.