“Ffederaliaeth radical” yw’r “ateb gorau” i’r Alban – nid annibyniaeth – yn ôl un o’r rheiny sydd yn gobeithio olynu Jeremy Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur.
Mewn darn i bapur Albanaidd The National mae Clive Lewis , Aelod Seneddol De Norwich, yn dweud bod y gefnogaeth at annibyniaeth yn sgil Brexit yn “ddim syndod” iddo.
Ond, er hynny mae’n dadlau mai ffederaliaeth yw’r ateb i’r Alban yn hytrach nag ysgariad llwyr rhag gweddill y Deyrnas Unedig.
“Dw i’n parhau i gredu mai ffederaliaeth radical, a fyddai’n sicrhau’r ymreolaeth fwyaf posib i’r Alban, yw’r ateb gorau i bob un o genhedloedd y Deyrnas Unedig…” meddai.
“Dw i eisiau bod yn rhan o undeb lle mae pawb yn teimlo fel eu bod yn cael eu clywed, a bod eu hanghenion yn cael eu hystyried.
“Rhaid bod yn onest â chyfaddef nad dyna yw’r sefyllfa ar hyn o bryd.”
Y ras
Mae Llafur yr Alban ac ymgeisydd arall am arweinyddiaeth y blaid, Jess Philips, eisoes wedi gwrthwynebu cynnal ail refferendwm annibyniaeth.
Rebeca Long Bailey, Lisa Nandy, Keir Starmer ac Emily Thornberry yw’r ymgeiswyr eraill.