Mae Keir Starmer wedi denu digon o gefnogaeth er mwyn sefyll i fod yn arweinydd nesa’r Blaid Lafur.

Mae wedi cael cefnogaeth 23 aelod seneddol ac aelod seneddol Ewropeaidd, un yn fwy na’r trothwy angenrheidiol.

Mae gan Rebecca Long-Bailey gefnogaeth saith aelod seneddol hyd yn hyn, tra bod gan Jess Phillips gefnogaeth chwech.

Dau sydd gan Lisa Nandy, ac mae gan Emily Thornberry un.

Mae enwebiadau’n cau ddydd Llun (Ionawr 13), ac mae angen cefnogaeth 10% o’r 212 o aelodau seneddol ac aelodau seneddol Ewropeaidd ar ymgeiswyr.