Mae merch o wledydd Prydain wedi derbyn dedfryd o bedwar mis o garchar wedi ei ohirio wedi iddi gael ei dyfarnu’n euog o ddweud celwydd am gael ei threisio yn ynys Cyprus.
Mae hefyd wedi cael ei gorchymyn i dalu £125 o gostau cyfreithiol.
Cofleidiodd y ferch ei theulu a gadawodd y llys yn ei dagrau wedi’r ddedfryd a dywedodd y barnwr wrthi ei bod hi’n cael “ail gyfle”.
Roedd sawl grŵp hawliau merched tu allan i’r llys yn cydio mewn posteri ac yn gweiddi “paid â bod ofn, rydym yn dy gredu di”.
Dywed mam y ferch ei bod hi’n “falch” a’i bod hi’n “cael dod gartref”.