Mae dyn 36 oed wedi cael ei garcharu am oes am dreisio o leiaf 48 o ddynion ifanc yn ei fflat ym Manceinion.

Mae’r heddlu wedi cysylltu Reynhard Sinaga gyda mwy na 190 o ddioddefwyr posib – nid ydyn nhw wedi gallu adnabod 70 ohonyn nhw hyd yn hyn. Mae’n cael ei ystyried yn un o’r troseddwyr gwaethaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.

Roedd Reynhard Sinaga yn targedu dynion ifanc, meddw y tu allan i glybiau nos ger ei fflat yn oriau man y bore.

Clywodd Llys y Goron Manceinion y byddai’n cynnig rhywle iddyn nhw aros dros nos, cyn rhoi cyffuriau iddyn nhw a ffilmio ei hun yn ymosod arnyn nhw ar ei ffon symudol.

Roedd y rhan fwyaf o’r dynion yn heterorywiol ac nid oedden nhw’n cofio dim o’r hyn oedd wedi digwydd.

Cafodd ei ddal ar ôl i un o’r dynion ddeffro ac ymladd gydag o cyn mynd at yr heddlu gyda ffon symudol Reynhard Sinaga.

Ddydd Llun (Ionawr 6) cafodd Reynhard Sinaga ei garcharu am oes a bydd yn rhaid iddo dreulio o leia’ 30 mlynedd yn y carchar cyn cael ei ystyried am barôl.

Fe’i cafwyd yn euog o gyfanswm o 159 o droseddau gafodd eu cyflawni rhwng Ionawr 2015 a Mai 2017.

Clywodd y llys nad oedd yr un o’i ddioddefwyr eisiau gwybod y manylion o’r hyn ddigwyddodd iddyn nhw ar ôl i’r heddlu gysylltu â nhw, ac mae rhai wedi penderfynu peidio dweud wrth deulu neu ffrindiau agos am eu profiadau.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Suzanne Goddard QC bod Reynhard Sinaga yn “ffiaidd”.