Fe fydd Pwyllgor Llywodraethol Llafur yn cwrdd heddiw (dydd Llun, Ionawr 6) i drafod amserlen a rheolau ar gyfer ethol olynydd i Jeremy Corbyn.

Mae disgwyl i arweinydd y blaid fod yn bresennol yn y cyfarfod yn Llundain ddydd Llun.

Mae disgwyl i ysgrifennydd addysg yr wrthblaid Angela Rayner gyhoeddi ei bod hi’n ymgeisio am rôl y dirprwy arweinydd yn Stockport ddydd Llun. Roedd hi eisoes wedi awgrymu y byddai’n cefnogi ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Rebecca Long-Bailey, i fod yn arweinydd.

Mae’r Aelodau Seneddol sy’n ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid wedi bod yn amlinellu eu syniadau dros y Sul, gyda nifer yn feirniadol o bolisïau radical Jeremy Corbyn.

Y rhai sydd yn y ras yw Jess Phillips, Syr Keir Starmer, Emily Thornberry, a Lisa Nandy. Mae disgwyl i Rebecca Long-Bailey gyhoeddi ei bod yn ymuno yn y ras yn y dyddiau nesaf.