Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson ynghyd ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi galw am bwyllo wrth geisio lleddfu’r tensiynau yn y Dwyrain Canol.

Nos Sul (Ionawr 5) roedd y tri arweinydd wedi rhyddhau datganiad yn dweud bod yn rhaid i Iran gydnabod y rôl negyddol mae wedi chwarae yn y rhanbarth ond bod angen gweithredu “ar frys” i fynd i’r afael a’r sefyllfa.

Maen nhw’n galw ar bob un o’r gwledydd i fod yn bwyllog a chyfrifol gan ddweud bod angen i’r trais yn Irac ddod i ben – “mae argyfwng arall yn bygwth blynyddoedd o ymdrech i geisio sefydlogi Irac.”

Ychwanegodd y tri arweinydd yn y datganiad eu bod yn “barod i barhau gyda’n cysylltiad gyda phob ochr er mwyn ceisio lleddfu tensiynau ac adfer sefydlogrwydd yn y rhanbarth.”

Daw hyn yn dilyn yr ymosodiad gan luoedd yr Unol Daleithiau yn Baghdad pan gafodd y Cadfridog Qassem Soleimani, arweinydd ymgyrchoedd milwrol Iran, ei ladd. Mae’r ymosodiad wedi dwysau tensiynau rhwng Washington a Tehran.

Sancsiynau

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi rhybuddio Irac y bydd yn cyflwyno sancsiynau llym os yw lluoedd yr Unol Daleithiau yn gorfod gadael y wlad. Mae 5,000 o filwyr yn parhau i fod yn y wlad.

Mae Donald Trump hefyd wedi dweud y gallai safleoedd diwylliannol Iran gael eu targedu.

Mae Iran wedi dweud y bydd yn dial ar yr Unol Daleithiau wedi’r ymosodiad. Ond mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Mike Pompeo wedi dweud y gallai eu lluoedd ymosod ar ragor o arweinwyr Iran os ydyn nhw’n dial.