Mae dau lanc wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol mewn bloc o fflatiau yn Luton.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 6.30 nos Wener (Ionawr 3) yn dilyn adroddiadau bod tân mewn cyntedd ar y pedwerydd llawr ar ddeg.

Cafodd dynes yn ei 30au a’i dau blentyn eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol o ganlyniad i’r mwg.

Mae’r ddynes ac un o’r plant yn dal yn yr ysbyty.

Yn gynharach nos Wener, cafodd y gwasanaeth tân ei alw i adroddiadau bod larymau tân wedi’u difrodi mewn fflatiau gerllaw, ac mae’r heddlu’n cysylltu’r ddau ddigwyddiad.

Mae’r llanciau, sy’n 15 ac 16 oed, yn cael eu holi yn y ddalfa ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywydau.