Mae prif ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, eisiau “weirdos” yn gweithio i Lywodraeth Prydain.

Mewn blog fe gyfeiriodd at yr angen i benodi “weirdos hynod dalentog… artistiaid, pobol sydd heb fod i brifysgol ac wedi gorfod brwydro eu ffordd o dwll uffernol”.

Ar hyn o bryd, yn ôl Dominic Cummings, mae yna “broblemau difrifol” yn y ffordd mae’r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau.

Er mwyn datrys y sefyllfa, mae’r prif ymgynghorydd am weld “criw o bobl anghyffredin gyda gwahanol sgiliau a chefndiroedd” yn gweithio fel ymgynghorwyr arbennig yn Rhif 10 Stryd Downing.

Daw sylwadau Dominic Cummings ar ôl i Rachel Wolf, a helpodd i greu maniffesto’r Blaid Geidwadol, ddweud y gallai’r Llywodraeth orfodi gweision sifil i sefyll arholiadau i brofi eu bod yn gallu gwneud eu swyddi yn San Steffan.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Undeb Gweision Sifil mae staff yn cael eu cyflogi oherwydd yr “hyn maen nhw yn gallu ei wneud, nid yr hyn maen nhw yn ei gredu.”

“Os ydych chi’n amgylchynu eich hunan gyda phobl sydd wedi cael eu recriwtio oherwydd eu bod yn credu’r un peth â chi, ai dyna’r ffordd orau i’r gwasanaeth sifil neu ymgynghorwyr fod yn weithwyr gonest a theilwng?

“Dw i ddim yn meddwl, a dw i’n meddwl bod rhai o’r syniadau yma yn beryglus hefyd.”