Y ddegawd ddiwethaf oedd yr ail boethaf a’r ail wlypach yn y 100 mlynedd ddiwethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ol y Swyddfa Dywydd.
Rhwng 2010 a 2019 cafodd y dyddiau poethaf eu cofnodi ar gyfer Chwefror, Gorffennaf, Hydref, Tachwedd a Rhagfyr. A gyda’r hinsawdd yn parhau i gynhesu, mae’n debyg y bydd rhagor o gofnodion o dymheredd uchel, yn ôl arbenigwyr.
Dywedodd Dr Mark McCarthy, pennaeth y Ganolfan Wybodaeth Hinsawdd Wladol: “Rydym yn disgwyl i’r patrwm o gynhesu barhau drwy gydol y ganrif ac i’r math yma o gofnodion barhau yn y dyfodol.”
Tra bod llefarydd dros y Llywodraeth San Steffan wedi dweud bod newid hinsawdd yn “flaenoriaeth” a’u bod yn benderfynol o gynyddu momentwm ynghylch gweithredu amgylcheddol.