Mae merch 12 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl iddi gael ei tharo gan fan wrth gerdded ar balmant yn Newbury.

Mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i’r gyrrwr ar ôl i’r cerbyd fethu â stopio yn dilyn y digwyddiad.

Roedd y ferch yn cerdded i gyfeiriad y dref gyda’i theulu toc cyn 9 o’r gloch nos Wener (Rhagfyr 27) pan gafodd ei tharo.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn Rhydychen, lle mae hi’n derbyn triniaeth.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.