Roedd trysorau Nadolig gan gynnwys darnau o preseb Crist ymhlith llu o wrthrychau gwerthfawr a roddwyd i un abaty yn Lloegr ar hyd yr oesoedd yn ôl ymchwil newydd.
Mae astudiaeth o lawysgrif 580 oed wedi datgelu’r amrywiaeth o greiriau Nadoligaidd a roddwyd i Battle Abbey gan William y Gorchfygwr a’r Brenin John ymysg eraill.
Datgelwyd y rhestr ryfeddol o wrthrychau a gafodd eu rhoi i’r yn abaty, ger safle Brwydr Hastings, gan Treftadaeh Lloegr.
Trysorau’r Nadolig
Ymysg y trysorau Nadoligaidd fu’n cael eu cadw yn Abaty Battle roedd:
– Darnau o’r ddaear lle ganwyd Iesu Crist
– Darnau o breseb Iesu Grist
– Gwallt ac asgwrn bys Sant Nicholas, y Sion Corn gwreiddiol.
– Cerrig gafodd eu defnyddio i labyddio y Sant Steffan ry’n ni’n ei gofio ar ddydd Gŵyl San Steffan.
– Creiriau nifer o’r Diniweidiaid Sanctaidd a laddwyd ar orchymyn y Brenin Herod.
Dywedodd Dr Michael Carter, hanesydd gyda Treftadaeth Lloegr: “Roedd casglu creiriau yn agwedd bwysig ar fynachaeth ganoloesol ac rwyf wrth fy modd yn meddwl mai fi efallai oedd y person cyntaf mewn dros 500 mlynedd i astudio’r rhestr ogoneddus o Battle Abbey yn fanwl.
“Mae’n hynod ddiddorol sut y gellir olrhain cysylltiadau â’n Nadolig ni heddiw yn ôl bron i fil o flynyddoedd ac er gwaethaf Harri’r VIII, mae’r mynachlogydd gwych hyn yn dal i ildio’u cyfrinachau.”