Mae disgwyl i’r trafodaethau i geisio sefydlogrwydd yn Stormont ddechrau eto’r wythnos hon.

Yn ôl Julian Smith, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, mae arweinwyr pob un o brif bleidiau’r wlad wedi dangos parodrwydd i gymryd rhan yn y trafodaethau i ddod â chyfnod ansefydlog i ben.

Ac mae’n ymddangos y bydd yntau hefyd yn parhau yn ei swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

“Galwadau da gydag arweinwyr pob un o’r pum plaid fore heddiw,” meddai ar ei dudalen Twitter.

“Edrych ymlaen at ddechrau proses bositif yfory i gael Stormont yn ôl ar ei thraed.”

Cefndir

Dydy’r pleidiau ddim wedi cyfarfod yn Stormont ers dros 1,000 o ddiwrnodau yn sgil ffrae rhwng pleidiau Sinn Fein a’r DUP tros faterion megis yr iaith Wyddeleg a gwaharddiad ar briodasau o’r un rhyw.

Mae’r ddwy blaid wedi colli poblogrwydd yn sgil y ffrae, ac fe ddaeth hynny’n amlwg yn yr etholiad cyffredinol.

Ymhlith y gwleidyddion amlycaf i golli eu seddi roedd Nigel Dodds, dirprwy arweinydd y DUP.

Ac fe gipiodd yr SDLP nifer o seddi oddi ar y blaid hefyd.

Mae’r DUP a Sinn Fein eisoes wedi dangos parodrwydd i gynnal trafodaethau o’r newydd.

Yn ôl Julian Smith, fe fydd etholiad yn Stormont os na fydd cytundeb erbyn Ionawr 13.