Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud fod gan drigolion y wlad “hawl democrataidd” i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.

Bydd Nicola Sturgeon yn cyflwyno cais ffurfiol i Senedd Holyrood yng Nghaeredin gael cynnal y fôt, gan ddweud y bydd Llywodraeth yr Alban yn “cyhoeddi’r achos democrataidd manwl tros drosglwyddo’r grym i gynnal refferendwm tu hwnt i unrhyw her gyfreithiol”.

Wedi i’r SNP gipio 48 o seddi’r Alban – a’r Torïaid yn colli hanner eu seddi yno – mae Nicola Sturgeon yn dadlau bod y wlad wedi dewis dyfodol gwahanol i weddill gwledydd Prydain.

Er bod Boris Johnson wedi ennill mwyafrif clir ar gyfer symud ymlaen â Brexit, fe gollodd y Torïaid saith o’u 13 sedd yn yr Alban.

Mae’r SNP wedi bod yn daer o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac eisiau cynnal refferendwm annibyniaeth fel bod modd i’r Alban aros yn yr UE.

Mae disgwyl clamp o ffrae rhwng y ddau Brif Weinidog tros gynnal ail refferendwm.

“O ystyried yr hyn rwy’n ofni yw cynlluniau’r Llywodraeth Dorïaidd ar gyfer yr Alban, mae ein hawl i ddewis ein dyfodol ein hunain yn bwysicach nag erioed.”