Mae undebau llafur yn rhybuddio nad oes gan Boris Johnson “ddim rhagor o esgusodion” wrth gwblhau Brexit.

Ar ôl sicrhau mwyafrif sylweddol, mae prif weinidog Prydain yn addo sicrhau ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Ionawr 31.

Yn ystod y cyfnod seneddol diwethaf, rhoddodd e’r bai ar y senedd am atal proses Brexit.

Mae’n dweud erbyn hyn fod gan ei lywodraeth fandad i gwblhau’r broses.

Ond mae’r undebau llafur yn ei rybuddio fod “y mis mêl byrraf” o’i flaen.

Pwysau

“Ar ôl naw mlynedd o lymder yn methu, mae’r pwysau bellach ar y llywodraeth i wella safonau byw a buddsoddi go iawn yn ein Gwasanaeth Iechyd a’n gwasanaethau cyhoeddus,” meddai Frances O’Grady, ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur.

“Does dim rhagor o esgusodion i Boris Johnson ynghylch Brexit.

“Yn ystod y flwyddyn i ddod, mae’n rhaid iddo fe gyflwyno bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n gwarchod swyddi, hawliau yn y gweithle a heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i bobol sy’n gweithio sefyll gyda’i gilydd yn eu hundebau a pharatoi i frwydro i warchod ein bywoliaeth a’n cymunedau.”

‘Canlyniad torcalonnus’

“Roedd y canlyniad neithiwr yn dorcalonnus i’n plaid,” meddai Manuel Cortes, arweinydd y Gymdeithas Staff Trafnidiaeth Cyflogedig.

“Does dim diben gwneud esgusodion am y fath golled ddigamsyniol.

“Rydym yn dechrau gweithio’n eithriadol o galed o heddiw ymlaen i adeiladu llwyfan etholiadol a fydd yn ailgysylltu â’r holl bobol nad oedden nhw wedi ein cefnogi ni.”