Mae Ruth Davidson yn addo nofio’n noethlymun yn Loch Ness pe bai’r SNP yn ennill 50 o seddi yn yr etholiad cyffredinol yfory (dydd Iau, Rhagfyr 12).

Ond mae cyn-arweinydd Ceidwadwyr yr Alban yn dweud ei bod hi’n hyderus na fydd rhaid iddi dynnu ei dillad ac y bydd ei “gwyleidd-dra a chanhwyllau llygaid eraill yn cael llonydd”.

Mae’n dweud bod yr hinsawdd wleidyddol yn dra gwahanol i 2015, pan enillodd yr SNP 56 o seddi yn San Steffan.

“Byddwn i’n hapus iawn i addo mynd yn noethlymun ar lannau Loch Ness a dioddef sesiwn wyllt o nofio Hogmanay pe bai’r fath ganlyniad yn digwydd, gan wybod yn iawn y bydd fy ngwyleidd-dra a chanhwyllau llygaid eraill yn cael llonydd,” meddai wrth osod yr her.

Sefyllfa’r Alban a’r SNP

Mae 59 o seddi ar gael yn yr Alban, ac mae gan yr SNP 35 ohonyn nhw ar hyn o bryd, tra bod gan y Ceidwadwyr 13.

Mae gan Lafur saith sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol bedair.

“Er mwyn cyrraedd y 50 hudolus, mae angen i’r SNP gipio 15 o seddi o dair plaid sy’n cynnig pethau cwbl wahanol ar Brexit, cael caniatâd ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall, ataliad niwclear, yr economi yn gyffredinol ac yn enwedig gwladoli,” meddai.

“Yn ychwanegol at hyn, dydy’r SNP ddim yn targedu enillion yn unig.

“Maen nhw hefyd yn ceisio cau’r drws ar ragor o golledion.

“Yn 2017, diolch yn bennaf i bleidleiswyr o blaid yr Undeb yn pleidleisio gan ddefnyddio strategaeth dactegol, collodd Ms Sturgeon 21 o seddi a hanner miliwn o bleidleisiau mewn noson. 

“Mae rhan helaeth o’r hyn sydd ar ôl yn ymylol iawn.”

Dywed ymhellach fod pleidleiswyr o blaid y Deyrnas Unedig wedi hen arfer â phleidleisio tactegol yn erbyn yr SNP.

“Gadewch i ni ddweud fy mod i’n hyderus na fydda i’n nofio’n wyllt yn y dyfodol agos.”