Mae’r gwasanaeth prawf wedi ymddiheuro am “fethiannau” a alluogodd i droseddwr gyflawni cyfres o ymosodiadau ar fenywod a phlant.

Cafodd Joseph McCann, 34, ei ryddhau o garchar yn dilyn gwall gan y gwasanaeth, ac mi fwriodd ati i herwgipio, treisio ac ymosod ar lu o bobol yn Watford, Llundain, a gogledd Lloegr.

Bellach mae Prif Weithredwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Jo Farrar, wedi dweud: “Rydym yn cydnabod y bu yna fethiannau, ac rydym yn ymddiheuro heb amod am ein rhan yn hyn.”

Achos llys

Gwrthododd Joseph McCann fynd i’r achos yn ei erbyn yn yr Old Bailey, a bellach mae wedi cael ei farnu’n euog o’r troseddau canlynol:

  • 10 achos o gam-garcharu
  • Saith achos o drais
  • Un achos o dreisio plentyn
  • Dau achos o achosi gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad
  • Saith achos o herwgipio
  • Un achos o ymgais i herwgipio
  • Un achos o achosi plentyn dan 13 i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol
  • Tri achos o ymosod trwy dreiddio
  • Un achos o ymosod rhywiol
  • Dau achos o gyflawni trosedd rhywiol yn fwriadol

Cyfres o droseddau

Clywodd y llys ei fod wedi herwgipio dynes yn Watford a’i threisio yn oriau mân y bore ar Ebrill 21.

Er i’r ddynes roi gwybod i’r heddlu am yr ymosodiad, parhaodd Joseph McCann ar ffo ac mi herwgipiodd ddynes 25 oed yn Walthamstow ar Ebrill 25 a’i threisio.

Oriau wedi hynny herwgipiodd dynes ifanc yng ngogledd Lloegr. Bu i’r ddwy ddynes ffoi yn Watford pan gafodd y troseddwr ei daro ar ei ben â photel gan y ddynes 25 oed.

Ar Fai 5 aeth i dŷ dynes trwy dwyll, mi glymodd hi i fyny, ac mi aflonyddodd ei phlant – merch 17 a bachgen 11 – yn rhywiol.

Yn ddiweddarach yn y diwrnod, mi dreisiodd ddynes 71 oed, ac mi herwgipiodd merch 13 oed ac ymosod arni.

Wrth i heddlu ddal fyny ag ef, gorfododd dwy ferch 14 oed i mewn i’w gar gan eu bygwth. Llwyddodd y merched i ffoi, ac yn y pendraw cafodd ei ddal gan swyddogion.