Fe fydd Boris Johnson yn mynd benben gyda Jeremy Corbyn mewn dadl deledu ar y BBC heno (nos Wener, Rhagfyr 6).
Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gael ei feirniadu gan Andrew Neil am wrthod gwneud cyfweliad gydag o ar ei raglen BBC.
Yn ôl Andrew Neil, os oes disgwyl i’r Prif Weinidog wynebu arweinwyr fel Donald Trump a Vladimir Putin dylai fod yn barod i gynnal cyfweliad hanner awr gydag o.
Mae Boris Johnson wedi cael ei gyhuddo o osgoi cael ei holi’n ddwys gan y darlledwr profiadol, er bod arweinwyr y pleidiau eraill, gan gynnwys Jeremy Corbyn, wedi cymryd rhan yn ei raglen.
Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwrthod gwneud cyfweliad gyda ITV. Fe fydd yn cymryd rhan yn y ddadl gydag arweinydd y Blaid Lafur heno, lai nag wythnos cyn i bobl fwrw eu pleidlais ar Ragfyr 12.
Roedd tua 6.7 miliwn o bobol wedi gwylio’r ddadl deledu rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn ar ITV fis diwethaf.