Mae adroddiadau y bydd Brenhines Loegr, Elizabeth II, yn ymddeol o’i swyddogaeth pan fyddd yn cyrraedd ei 95 oed ymhen blwyddyn a hanner – ac y bydd Tywysog Cymru yn dod yn Rhaglaw yn ei lle.

Mae’r Tywysog Charles wedi cyfarfod â’i dad, Dug Caeredin, yn Sandringham heddiw (dydd Mercher Tachwedd 27) yn syth wedi iddo ddychwelyd o daith swyddogol i Seland Newydd.

Y gred ydi fod yr helbulon diweddar yn deillio o berthynas Tywysog Andrew â’r pedoffeil, Jeffrey Epstein, wedi cyfrannu at y broses – a bod y Frenhines, 93, wedi cael digon ar drio cadw’r ddysgyl yn wastad rhwng gweithredu a sicrhau sylw ffafriol gan y cyhoedd ar y cyfrayngau cymdeithasol.

Mae Charles, mab hynaf y Frrenhines, newydd gyrraedd ei 71 oed, ac un o’r hynaf erioed yn hanes Coron Lloegr i gael camu i’r Orsedd. Ond fydd hynny ddim yn digwydd nesa y bydd ei fam yn marw, nid ymddeol.