Mae’r Blaid Lafur wedi rhoi addewid i wella hawliau i denantiaid i fynd i’r afael a phroblemau o fewn y sector rhentu preifat yn Lloegr.

O dan y cynlluniau fe fyddai’n rhaid i landlordiaid gwblhau archwiliad annibynnol blynyddol i sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd y safonau priodol. Os ydyn nhw’n rhentu eiddo sydd ddim yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig neu os ydyn nhw’n torri’r rheolau fe allen nhw wynebu dirwy o hyd at £100,000 a’u gorfodi i ad-dalu rhent i’w tenantiaid.

Yn ôl y Blaid Lafur, mae eu hymchwil wedi darganfod bod tenantiaid yn talu mwy na £10bn y flwyddyn mewn rhent i landlordiaid sy’n gosod cartrefi sydd ddim yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig. Dywed y blaid bod un ym mhob pedwar o gartrefi sy’n cael eu rhentu’n breifat yn llaith, oer, heb gael eu hatgyweirio, a ddim yn ddiogel i fyw ynddyn nhw.

Wrth lansio’r siarter dywedodd arweinydd Llafur Jeremy Corbyn y bydd y blaid yn herio’r landlordiaid hynny sy’n “ecsploetio’r” argyfwng tai ac yn codi rhentu uchel am gartrefi eilradd.

“Fe fydd Llafur yn rhoi’r pŵer yn ôl yn nwylo tenantiaid gyda’n siarter newydd o hawliau tenantiaid, gan roi cap ar rent preifat ac ariannu undeb i gefnogi tenantiaid er mwyn  diogelu eu hawl i gael cartref diogel.”

Mae Shelter wedi croesawu’r cynlluniau ond yn ôl Cymdeithas y Landlordiaid fe fyddai’n arwain at gau’r sector rhentu preifat gan arwain at ragor o ddigartrefedd.