Mae Nicola Sturgeon yn dweud y byddai’r SNP yn barod i gefnogi Llywodraeth Lafur leiafrifol yn San Steffan pe baen nhw’n fodlon dileu rhaglen Trident, yn rhoi rhagor o bwerau i Holyrood ac yn cytuno i gynnal ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Mae atal Brexit a rhoi terfyn ar lymder hefyd ar restr siopa prif weinidog yr Alban.

Ond ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn dweud y gallai gymryd hyd at dair blynedd cyn i Lafur gymeradwyo ail refferendwm annibyniaeth.

Mae Jeremy Corbyn eisoes wedi dweud na fyddai’n digwydd o fewn y tymor cyntaf pe bai’n dod i rym.

Ond mae Nicola Sturgeon eisoes wedi addo refferendwm yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

“Fy safbwynt i, a’r safbwynt y byddwn i’n disgwyl i Lafur ei barchu pe baen nhw eisiau cefnogaeth yr SNP, yw’r mater o a fyddai refferendwm annibyniaeth ac mae amseru hynny yn nwylo Senedd yr Alban, nid San Steffan, i’w benderfynu,” meddai.

Mae Nicola Sturgeon yn dweud y byddai’r etholiad yn un llwyddiannus pe baen nhw’n dod i ffwrdd â dylanwad dros lywodraeth leiafrifol.

Mae hi hefyd yn dweud na fyddai ei phlaid fyth yn rhoi rhwydd hynt i Lywodraeth Geidwadol ddod i rym, ac na fyddai hi’n barod chwaith i glymbleidio’n ffurfiol â Llafur.

Ond mae Llafur yn dweud nad ydyn nhw’n barod i ildio i’r cais am ail refferendwm annibyniaeth o dan unrhyw amgylchiadau.