Mae’r Blaid Lafur yn lansio manffesto etholiad yn Birmingham heddiw (dydd Iau, Tachwedd 21) sy’n rhoi sylw i gyflogau, newid hinsawdd ac ailwladoli prif wasanaethau cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r manylion llawn gael eu cyhoeddi yn ystod y lansiad, a fydd yn cynnwys addewid o fand llydan rhad ac am ddim i bob cartref a busnes erbyn 2030, mwy o arian i’r Gwasanaeth Iechyd a refferendwm newydd ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl cynlluniau’r blaid, dim ond y 5% sy’n ennill y cyflogau mwyaf fydd yn gorfod talu trethi ychwanegol.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn dweud bod y ddogfen yn “maniffesto llawn gobaith” sydd wedi cael ei phrisio’n llawn.

Ond mae’n dweud hefyd ei fod e’n disgwyl cryn wrthwynebiad i’r maniffesto yn ystod yr ymgyrchu etholiadol cyn Rhagfyr 12.

‘Amhosib?’

“Dros y tair wythnos nesaf, mae’r bobol fwyaf pwerus ym Mhrydain a’u cefnogwyr yn mynd i ddweud wrthoch chi fod popeth yn y maniffesto hwn yn amhosib,” meddai Jeremy Corbyn.

“A’i fod e’n ormod i chi.

“Oherwydd dydyn nhw ddim eisiau newid go iawn. Pam fydden nhw? Mae’r system yn gweithio’n iawn iddyn nhw. Mae wedi’i threfnu o’u plaid nhw.”

Prif addewidion

Ar fater Brexit, bydd y blaid yn cadw at eu safbwynt gwreiddiol, sef sicrhau sêl bendith yr Undeb Ewropeaidd i gytundeb newydd erbyn mis Mawrth a chynnal pleidlais o fewn tri mis wedyn, gyda Aros yn un o’r opsiynau.

Bydd gwario sylweddol ar y Gwasanaeth Iechyd hefyd yn rhan o’r maniffesto, ynghyd â chodi’r isafswm cyflog i £10 yr awr, a chreu swyddi fel rhan o “chwyldro gwyrdd”.

Mae’r blaid hefyd yn addo’r cynllun codi tai mwyaf ers y 1960au, gan wario £75bn i godi 150,000 o dai newydd bob blwyddyn.