Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i “honiadau difrifol iawn” fod nifer o aelodau Plaid Brexit wedi cael cynnig seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi yn gyfnewid am gamu o’r neilltu er lles y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae’r Arglwydd Falconer, un o arglwyddi Llafur, wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Heddlu Llundain a’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn galw am ymchwiliad “ar frys”.

Mae’n dweud bod yr ymchwiliad yn hanfodol er mwyn adfer hyder y cyhoedd.

Fe ddaw ar ôl i Nigel Farage honni ei fod e ac wyth aelod arall o’r blaid wedi cael cynnig arglwyddiaethau.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwynion yn ymwneud â thwyll etholiadol a drwgweithredu mewn perthynas â’r etholiad cyffredinol fis nesaf.

Mae Michael Gove wedi wfftio honiadau’r Arglwydd Falconer, gan ddweud bod y cyfan yn “nonsens”, ond mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn dweud bod “sgyrsiau” wedi cael eu cynnal ond nad oedd cynnig wedi cael ei wneud.

Mae Plaid Brexit a’r Ceidwadwyr eisoes wedi taro bargen er mwyn sicrhau nad yw’r naill yn sefyll mewn 317 o etholaethau lle mae’r llall mewn grym ar hyn o bryd.