Cafodd bron i £48m ei godi at achosion da ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen, yn ôl y BBC.

Cafodd y ffigwr ei gyhoeddi ar ddiwedd noson o raglenni arbennig ar y teledu, oedd yn serennu prif actorion Doctor Who, yr actor John Boyega o Star Wars a phêl-droedwyr Lloegr.

Y ffigwr terfynol ar y diwrnod oedd £47,886,382, a bydd yr arian yn mynd at helpu plant a phobol ddifrientiedig ym mhob rhan o wledydd Prydain, yn ogystal â chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd yn ddiweddar.

Roedd perfformiadau hefyd o ganeuon sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd ar albwm, gydag actorion fel Jodie Whittaker, David Tennant, Jim Broadbent, Helena Bonham Carter ac Olivia Colman yn canu eu hoff ganeuon.

Cafodd £2.3m ei godi yng Nghymru.