Mae Llafur wedi addo rhoi cysylltiad band eang i bob cartref yn y Deyrnas Unedig – a hynny, am ddim – os ydyn nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol.

Dan ei chynlluniau bydd gwasanaeth Band Eang Prydeinig yn cael ei sefydlu, bydd rhannau o BT (darparwr band eang) yn cael eu gwladoli, a bydd y rhwydwaith rhyngrwyd yn cael ei uwchraddio.

Wrth gyhoeddi’r addewid ddydd Gwener (Tachwedd 15) bydd Jeremy Corbyn, Arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud bod y we wedi dod yn rhan ganolog o’n bywydau.

“Dyna pam mae’n rhaid i fand eang ffibr-llawn fod yn wasanaeth cyhoeddus, gan ddod â chymunedau ynghyd, gyda’r un hawl i fynd ato, mewn cymdeithas sy’n gynhwysol ac wedi’i chysylltu,” mae disgwyl iddo ddweud.

“Mae’n bryd i ni sicrhau bod y band eang ffibr-llawn cymylaf ar gael i bawb, ym mhob cartref, ac ym mhob cwr o’n gwlad.”

Buddsoddi

Mae Llafur wedi dweud y byddan nhw’n talu am y cynllun trwy gronfa ‘Trawsnewidiad Gwyrdd’ a thrwy godi trethi ar gwmnïau mawr gan gynnwys Amazon, Facebook a Google.

£15.3b byddai cost gychwynnol y cynllun, ac mae’r blaid yn dweud y byddai’n arbed £30.30 y mis i bobol ar gyfartaledd.

Cymunedau sydd â’r cysylltiad gwaethaf fydd y cyntaf i brofi’r cynllun.

Effaith ar gwmnïau

Mi gwympodd gwerth cyfranddaliadau BT bron i 4%, yn sgil y cyhoeddiad, ac mae cwmni TalkTalk wedi dewis oedi gwerthiant ei fusnes band eang, FibreNation.

Mae prisiau cyfranddaliadau BT bellach wedi sefydlogi i gwymp o 2% ond mae gwerth y cwmni wedi crebachu – mae’r gwerth wedi lleihau gan £500m.