Mae Llafur wedi rhoi addewid i gau’r bwlch mewn cyflogau rhwng dynion a merched o fewn degawd – 50 mlynedd yn gynt na’r Blaid Geidwadol.

Bydd y blaid yn cyflwyno nifer o fesurau’n ymwneud â thâl – gan gynnwys cosbi cwmnïau lle mae anghydraddoldeb mewn cyflogauer mwyn darparu tegwch i ferched yn y gweithle.

Yn ôl yr elusen ymgyrchu dros gydraddoldeb, y Gymdeithas Fawcett fe fyddai’n cymryd hyd at 2080 i i gau’r bwlch o dan arweiniad y Ceidwadwyr.

Dywedodd ysgrifennydd cysgodol Llafur dros gydraddoldeb merched, Dawn Butler, nad yw hyn yn “ddigon da”.

“Bydd cyflog byw, ynghyd ag ymchwiliad cadarn i anghydraddoldeb tâl – sy’n cynnwys cosbi cwmnïau – yn ein helpu i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwn,” meddai.

Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod y bwlch tâl cyfartalog am waith llawn amser yn 13.1%.