Mae Jeremy Corbyn wedi wfftio’r posibilrwydd o roi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth – hyd yn oed os bydd yr SNP yn ennill mwyafrif yn yr Alban.

Ond yn groes i’r sylwadau hynny, dywed ei gynorthwywyr y byddai’r sefyllfa’n wahanol pe bai’r SNP yn aros mewn grym yn Holyrood yn dilyn etholiad Senedd yr Alban yn 2021.

Mae Jeremy Corbyn yn Glasgow ddydd Iau (Tachwedd 14) mewn ymdrech i helpu ei blaid i adennill rhai o’r seddi a gafodd eu colli i’r SNP yn nhirlithriad etholiad cyffredinol 2015.

“Fydd dim refferendwm yn nhymor cyntaf llywodraeth Lafur oherwydd dwi’n teimlo bod yn rhaid i ni ganolbwyntio’n llwyr ar fuddsoddiad ar hyd a lled yr Alban,” meddai Jeremy Corbyn.