Mae chwech o brotestwyr  wedi eu cadwyno wrth baricedau wrth i’r heddlu geisio symud teithwyr o Dale Farm, ger Basildon yn Essex.

Mae’r cefnogwyr wedi cadwyno’u hunain wrth gerbydau tu ôl i’r prif fynedfa a thu ôl i atalfa traffig ar safle Dale Farm.

Fe fu gwrthdaro rhwng y teithywr, eu cefnogwyr a’r heddlu ddoe wrth i’r gwaith ddechrau i geisio eu symud o’r safle. Cafodd 23 o bobl eu harestio.

Dywedodd un protestiwr, Harry, sydd wedi cadwyno’i hun i fariced ar y safle: “Efallai’n bod ni ond yn oedi’r anochel, ond os na wnewn ni sefyll fyny i hyn, does dim disgwyl i neb arall wneud. Dwi’n barod i aros mor hir a dwi’n gallu.”

‘Ble nesaf?’

Bu nifer o deithwyr yn cysgu mewn lleoliadau tu allan i’r safle am y noson, ond mae dwsinau yn dal yno. Roedd un dynes a’i theulu yn barod i adael unwaith i’r giat agor.

Yn ôl y fam i bedair sydd wedi bod yn byw yn Dale Farm, y cwestiwn mawr iddyn nhw nawr yw i ble’r â’n nhw nesaf.

“Does gen i unman i fynd, ond fe ges i ofn y trais ac rwy’n poeni am fy mhlant,” meddai Mary Sheridan. “Mor gynted ag y bydd y giat yn agor dwi eisiau gadael.”

Mae eraill yn benderfynol o aros, gan addo cadwyno’u hunain i’w cartrefi wrth i’r beiliaid symud i mewn.

Mae’r scaffold wrth y brif fynedfa yn dal i sefyll, ac mae gwaith wedi dechrau i’w dynnu lawr cyn i’r beiliaid ddechrau symud cartrefi o’r safle anghyfreithlon.