Mae disgwyl i gwmni o Tsieina brynu ffatri British Steel yn Scunthorpe yr wythnos hon, gan achub hyd at 4,000 o swyddi.

Fe ddaeth cwmni Jingye Group i’r adwy ar ôl i drafodaethau â phrynwr o Dwrci ddod i ben.

Mae lle i gredu bod cwmni Liberty House hefyd wedi bod yn awyddus i’w brynu wrth i’r trafodaethau ag Ataer orffen yn aflwyddiannus.

Mae lle i gredu y bydd y cwmni’n cael ei brynu am £70m ar ôl ymddatod yn ddiweddar, a bod y prynwr yn barod i gael mynediad i £300m o arian ychwanegol mewn benthyciadau, grantiau ac indemniadau.

Gobaith y prynwr yw y gall gynyddu cynhyrchiant y safle o 10%. Mae staff yn Scunthorpe wedi cael gwybod am y datblygiadau.