Mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo’r Blaid Lafur o fod yn “ddiofal” yn sgil cynllun honedig i wario £1.2 triliwn dros gyfnod o bum mlynedd.

Ond dydy Kwasi Kwarteng, mewn cyfweliad ar Sky News, ddim wedi gallu dweud faint yn union y byddai’r Blaid Geidwadol yn ei wario yn yr un cyfnod.

“Mae’n gwbl briodol fod y cyhoedd yn gwybod fod cynlluniau Llafur yn ddiofal ac yn rhy ddrud,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Dw i ddim am daflu ffigurau o gwmpas,” meddai wedyn am gynlluniau’r Ceidwadwyr.

“Mae’n gwbl briodol i ni ddweud mai dyma mai’r wrthblaid yn ei ddweud a dyma faint mae’n mynd i’w gostio.”

‘Newyddion ffug’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywed John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, fod yr honiadau’n “ddarn anhygoel o newyddion ffug Torïaidd” ac yn “gymysgedd analluog o amcangyfrifon sydd wedi’u gwrthbrofi”.

Mae’n dweud bod y Ceidwadwyr yn ofni polisïau “poblogaidd” Llafur.

“Bydd Llafur yn gosod trethi ar bobol gyfoethog i dalu am y pethau sydd eu hangen ar bawb ac maen nhw’n eu haeddu, fel cartrefi da, gofal iechyd a chefnogaeth i’n plant,” meddai.

“Byddwn ni hefyd yn defnyddio grym y wladwriaeth i fuddsoddi er mwyn tyfu ein heconomi, creu swyddi da ym mhob rhanbarth a chenedl, a herio’r argyfwng hinsawdd.

“Bydd y Ceidwadwyr yn gallu darllen am y cynlluniau hyn – a faint maen nhw’n eu costio mewn gwirionedd – pan fyddwn ni’n cyhoeddi ein maniffestio, a fydd wedi’i brisio’n llawn.”