Mae aelod seneddol Ceidwadol sy’n destun honiadau am ei ymddygiad rhywiol yn dweud na fydd yn sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol fis nesaf.

Roedd disgwyl i Ross Thomson frwydro i gadw ei sedd yn Ne Aberdeen.

Ond mae Paul Sweeney, aelod seneddol Llafur, wedi ei gyhuddo o gyffwrdd â fe mewn modd amhriodol.

Mae’n dweud iddo roi ei ddwylo i lawr ei drowsus mewn bar yn Nhŷ’r Cyffredin y llynedd.

Mae Ross Thomson yn gwadu’r honiadau ond wedi penderfynu peidio â chyflwyno’i enw eto.