Mae llysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i gais gwledydd Prydain i gael “estyniad hyblyg” ar gyfer Brexit tan Ionawr 31 2020, meddai llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk.
Roedd y llysgenhadon wedi cwrdd y bore ma (dydd Llun, Hydref 28) i drafod y penderfyniad.
Mae’n caniatau i wledydd Prydain adael yn gynt os oes modd cael cytundeb.
Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi mynnu ei fod eisiau gadael erbyn Hydref 31.
Fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi pwysau ar y gwrthbleidiau i benderfynu a ydyn nhw am gefnogi cais i gynnal etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, gydag Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn ddiweddarach heddiw.