Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn barod i orymdeithio i alw am ail refferendwm Brexit.

Daw’r orymdaith wrth i aelodau seneddol gwrdd yn San Steffan ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn ceisio cefnogaeth i’w fargen ond mae’r protestwyr yn galw am roi’r dewis yn ôl yn nwylo’r cyhoedd mewn refferendwm arall ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith y protestwyr mae Steven Bray o Bort Talbot, sydd wedi bod yn San Steffan bob diwrnod o gyfarfodydd aelodau seneddol ers 25 mis.

Bydd yr orymdaith yn Llundain yn dechrau yn Park Lane am 12 o’r gloch ac yn mynd trwy ganol Llundain i Sgwâr y Senedd, a bydd gorymdaith arall ym Manceinion.

Mae ymgyrchwyr eisoes wedi codi mwy na £500,000 i gefnogi’r orymdaith, gyda gwleidyddion o bob plaid yn annog pobol i gymryd rhan.