Mae Boris Johnson dan bwysau i gyfaddawdu wrth i ddyddiad Brexit agosáu.

Fe fydd trafodaethau rhwng swyddogion gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn ail-ddechrau ym Mrwsel ddydd Llun (Hydref 14) ond mae’r gobaith o ddod i gytundeb erbyn Hydref 31 yn y fantol.

Y gobaith yw y bydd cytundeb yn barod i’w gymeradwyo gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ystod yr uwch-gynhadledd sy’n dechrau ddydd Iau.

Dywedodd prif drafodwr yr UE Michel Barnier bod trafodaethau gyda swyddogion dros y penwythnos wedi bod yn “adeiladol”.

Ond wrth annerch llysgenhadon gwledydd yr UE ddydd Sul ym Mrwsel dywedodd bod “llawer o waith eto i’w wneud”.

Y prif faen tramgwydd o hyd yw’r “backstop” yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Boris Johnson hefyd wedi dweud wrth weinidogion bod “llwybr” tuag at dod i gytundeb ond bod “angen gwneud gwaith sylweddol” cyn i hynny ddigwydd.

Fe rybuddiodd ei Gabinet bod angen paratoi o hyd i adael ar Hydref 31 heb gytundeb.

Os na fydd yn gallu dod i gytundeb erbyn y penwythnos fe fydd yn dod o dan bwysau sylweddol i geisio gohirio Brexit ymhellach, rhywbeth mae e eisoes wedi dweud nad yw’n fodlon gwneud.