Mae’r Canghellor Sajid Javid wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal Cyllideb ddyddiau’n unig ar ôl y dyddiad mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Dywedodd Sajid Javid ar Twitter y bydd yn cyflwyno ei Gyllideb ar Dachwedd 6.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i adaeil yr UE ar Hydref 31.

“Ar Dachwedd 6, byddaf yn cyflwyno Cyllideb gyntaf Prydain wedi Brexit ac yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer yr economi a sut i gyflwyno ein chwyldro isadeiledd.”

Os nad yw gwledydd Prydain yn gadael ar Hydref 31 mae’n debyg y bydd y Gyllideb yn cael ei gohirio am rai wythnosau.