Mae Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, yn dweud bod “posibilrwydd cryf” y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal cyn y Nadolig.

Mae’n dweud bod llawer yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Brexit yr wythnos hon, wrth i’r prif weinidog Boris Johnson deithio i Frwsel i geisio bargen.

Dywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday fod ei blaid “yn barod am etholiad unrhyw bryd”, a’i fod yn “warthus” fod y Llywodraeth Geidwadol yn cynnal Araith y Frenhines yfory (dydd Llun, Hydref 14) pan ei bod 40 o bleidleisiau’n brin o fwyafrif.

Mae’n dweud bod yr achlysur yn gyfystyr â “darllediad gwleidyddol o risiau’r orsedd”.

Dyfodol Jeremy Corbyn

Tra bod ansicrwydd tros Brexit, mae Jeremy Corbyn yn gwrthod cadarnhau unrhyw beth am ei ddyfodol ei hun yn arweinydd pe bai Llafur yn colli etholiad cyffredinol.

Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, eisoes wedi dweud ei fod yn disgwyl iddo fe a Jeremy Corbyn gamu o’r neilltu pe bai’r Ceidwadwyr yn eu trechu.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl colli’r etholiad nesaf,” meddai Jeremy Corbyn wrth ymateb i’r sylwadau.