Mae Llafur wedi rhybuddio Boris Johnson y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn os bydd yn ceisio gwthio Brexit di-gytundeb yn erbyn ewyllys y Senedd.

Dywed Ysgrifennydd Brexit yr Wrthblaid, Syr Keir Starmer, y byddai Llafur yn gwneud “beth bynnag fydd ei angen” i rwystro Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis heb gytundeb.

Wrth annerch cynhadledd y Blaid Gydweithredol yn Glasgow, dywedodd Syr Keir Starmer y bydd yn rhaid i Boris Johnson ufuddhau i’r gyfraith.

“Os na fydd cytundeb wedi’i sicrhau yr adeg yma’r wythnos nesaf, rhaid i Boris Johnson geisio a derbyn estyniad. Dyna’r gyfraith. Does dim lle i ddadlau.

“Ac os na wnaiff hynny, byddwn yn gorfodi’r gyfraith – yn y llysoedd ac yn y Senedd.”

Refferendwm

Ychwanegodd y byddai Llafur yn mynnu refferendwm os bydd y Prif Weinidog yn llwyddo i gael cytundeb.

“Fe fyddwn yn mynnu bod y cytundeb hwnnw’n mynd yn ôl at y bobl am bleidlais i’w gadarnhau,” meddai.

“Mae’n ymddangos y byddai unrhyw gytundeb y byddai Boris Johnson ei sicrhau yn waeth na chytundeb Theresa May.

“Nid undeb tollau. Golau gwyrdd i ddad-reoleiddio. All Llafur fyth gefnogi’r math yma o gytundeb.”