Mae pwysau ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd i geisio achub y cwmni gwyliau Thomas Cook.

Gallai’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr o fewn ychydig ddiwrnodau oni bai ei fod yn dod o hyd i £200m ychwanegol.

Fe fyddai hyd at 150,000 o deithwyr yn cael eu heffeithio pe bai hynny’n digwydd.

Mae Manuel Cortes, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Staff Trafnidiaeth Cyflogedig yn galw am gyfarfod ag Andrea Leadsom, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, i drafod y sefyllfa.

Mae lle i gredu bod cwmni Thomas Cook eisoes wedi gofyn am gymorth y llywodraeth.