Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu ymgyrchu i ganslo Brexit drwy ddiddyu Erthygl 50 er mwyn galluogi’r Deyrnas Unedig i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd aelodau’r blaid yn pledleisio ar y cynnig yn ei chhynhadledd sy’n dechrau ddydd Sadwrn (Medi 14), yn Bournemouth.

“Mae’r Democraitiaid Rhyddfrydol yn cefnogi Pleidlais y Bobl gyda opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a byddwn yn ymgyrchu i aros i mewn,” meddai’r arweinydd, Jo Swinson.

“Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau i ddatrys llanast Brexit. Ond mi allai etholiad cyffredinol ddigwydd cyn Pleidlais y Bobol.”