Mae cyflogaeth wedi cyrraedd ei uchaf erioed yng ngwledydd Prydain gyda mwy o fenywod yn y gweithle a mwy yn hunangyflogedig nag erioed, mae ffigurau newydd yn dangos.

Fe gynyddodd y nifer o bobol sydd mewn cyflogaeth 115,000 i 32.81m yn y tri mis yn arwain at fis Mehefin, sy’n record newydd i bobol mewn gwaith, dywedodd y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Er hynny, mae diweithdra hefyd wedi cynyddu’n sylweddol, gyda mwy o bobol yn cael eu hystyried yn anweithgar yn economaidd.

Fe gynyddodd y nifer sy’n ddi-waith 31,000 i 1.33m yn y tri mis i Fehefin, wrth i’r gyfradd gynyddu i 3.9%.

Dyma’r cynnydd mwyaf mae gwledydd Prydain wedi gweld ers 2017.

Mae’r nifer sy’n ddi-waith a’r nifer sydd mewn gwaith wedi codi wrth i’r nifer o bobol rhwng 16 a 64 oed sy’n cael eu hystyried yn weithgar yn economaidd barhau i ddisgyn, gan ostwng 47,000 i 8.56m yn y cyfnod.

Roedd y cynnydd mewn cyflogaeth yn sylweddol uwch nag yr oedd economegwyr yn ei ragweld, ar ôl rhagweld cynnydd o 65,000, ond roedd y gyfradd ddiweithdra hefyd yn uwch na’r hyn a ragwelwyd.

Cododd canran y menywod rhwng 16 a 64 oed mewn gwaith i 72.1%, y gyfradd uchaf a gofnodwyd.