Mae Tesco wedi cyhoeddi y bydd tua 4,500 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf gan y cwmni archfarchnad ynglŷn â diswyddiadau.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r diswyddiadau ymhlith gweithwyr yn siopau Tesco Metro gyda rhai swyddi yn mynd yn siopau Express a’r archfarchnadoedd mwy.

Mae penaethiaid y cwmni eisiau gweddnewid y siopau Metro, sy’n fwy na siopau Express ond yn llai na’r archfarchnadoedd mawr gan ddweud bod siopwyr yn tueddu i’w defnyddio i brynu llai o nwyddau yno.

Y bwriad yn wreiddiol, meddai’r cwmni, oedd bod pobol yn eu defnyddio ar gyfer siopa am yr wythnos ond bod 70% o gwsmeriaid yn prynu bwyd am y diwrnod yn unig yno.

“Mae’n rhaid i ni barhau i adolygu’r ffordd ry’n ni’n cynnal ein siopau a sicrhau ein bod yn adlewyrchu’r ffordd mae cwsmeriaid yn siopa a gwneud hynny yn y ffordd fwya’ effeithlon.”

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Tesco eu bod yn cael gwared a 9,000 o staff. Mae undeb Usdaw, sy’n cynrychioli mwy na 160,000 o staff Tesco wedi dweud ei fod yn galw ar y Llywodraeth i weithredu i fynd i’r afael a’r argyfwng mewn manwerthu.