Saethu cyfeillgar, ac nid ffrwydron, a laddodd filwr Prydeinig yn Syria y llynedd.
Bu farw’r Sarjant Matt Tonroe wrth ymladd gyda’r SAS yn erbyn Daesh.
Roedd lle i gredu’n wreiddiol iddo gael ei ladd pan ffrwydrodd ei gerbyd, ond fe ddaeth i’r amlwg iddo gael ei saethu’n ddamweiniol.
Roedd e a’i gyd-filwr, y Sarjant Jonathan J Dunbar yn cynorthwyo’r lluoedd Americanaidd pan gawson nhw eu lladd.
Ffrwydron oedd achos eu marwolaeth yn ôl datganiad gan y Pentagon fis Mawrth y llynedd.
Ond mae ymchwiliad wedi penderfynu i’r gwrthwyneb, er nad oedd modd dweud yn sicr nad oedd ffrwydrad wedi cyfrannu at ei farwolaeth.