Mae’r ffigwr asgell dde eithafol, Tommy Robinson, wedi cael ei garcharu am gyflawni achos o ddirmyg llys.
Daw’r ddedfryd wedi i Stephen Yaxley-Lennon – ei enw go iawn – ffilmio dynion tu allan i Lys y Goron Leeds ym mis Mai’r llynedd.
Roedd y dynion yma wedi cael eu cyhuddo o ecsbloetio merched ifanc, ac aeth Stephen Yaxley-Lennon i greu’r fideo ohonyn nhw er gwaetha’ gwaharddiad adrodd.
Cafodd y fideo ei ffrydio yn fyw ar Facebook, mi barodd am awr a hanner, a chafodd ei wylio 250,000 o weithiau ar fore’r darlledu.
Manylion
Derbyniodd dedfryd naw mis o hyd gerbron yr Old Bailey ar dydd Iau (Gorffennaf 11) ond gan ei fod eisoes wedi treulio amser dan glo mae ei ddedfryd wedi ei gwtogi i 19 wythnos.
Bydd yn gorfod treulio dim ond hanner o’r cyfnod yma yn y carchar cyn cael ei ryddhau.
Stephen Yaxley-Lennon yw sefydlydd yr English Defence League (EDL), grŵp asgell dde ac Islamaffobaidd Seisnig.