Mae pensiynau preifat menywod deirgwaith yn is na rhai dynion erbyn oed ymddeol, yn ôl adroddiad.

Erbyn cyrraedd eu 60au, mae gan fenywod gyfoeth pensiwn o £51,100 ar gyfartaledd, heb bensiwn gwladol, tra mae gan ddynion o gwmpas £156,500, yn ôl rhoddwr pensiynau Now: Pensions a’r corff ymchwil pensiynau Pensions Policy Institute.

Mae’r ymchwil yn dangos mai’r amser mae menywod yn cymryd i ffwrdd er mwyn edrych ar ôl teulu ifanc yw’r rheswm mwyaf dros y gwahaniaeth mewn cyflog, ac yna felly mewn pensiynau.

Yn ôl yr ymchwil mae’n dueddol i fenywod sydd wedi ysgaru fod a photiau pensiwn bach, gyda’r cyfartaledd ar £26,100 i fenywod a £103,500 i ddynion.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod potiau pensiwn dynion wedi ysgaru sy’n agosáu at ymddeoliad tua thraean yn llai na’r hyn sydd i’w ddisgwyl fel arfer.

Ond mae menywod sydd wedi ysgaru yn wynebu pot pensiwn tua hanner y swm cyfartalog ar gyfer eu grŵp oedran a’u rhyw.

Fel arfer, mae gan fenywod yn eu 40au hwyr £10,000 yn llai o gyfoeth pensiwn na dynion, sy’n tyfu di fwlch o £67,000 i fenywod yn eu 50au hwyr, meddai’r adroddiad.