Mae yfed llai na un can o ddiod pop y dydd, neu sudd ffrwyth 100%, yn cynyddu’r siawns o gael ganser, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Mae arbenigwyr yn dweud fod pobol sy’n yfed llai na 200ml o ddiodydd pop sy’n llawn siwgr yn 18% fwy tebygol o ddatblygu canser.

Mae’n cynyddu’r risg o ganser y fron o 22% ymysg merched, ond dydi’r ymchwil ddim yn gallu profi ai diodydd pop yn unig sy’n achosi’r afiechyd.

Mae’r astudiaeth wedi’i chyhoeddi yn y British Medical Journal ac wedi edrych ar 101,257 o bobol yn eu 40au dros gyfnod o bum mlynedd.

Roedd 21% yn ddynion a 79% yn fenywod ac fe gawson nhw eu hasesu ar eu harferion bwyta, bob chwemis.

Ar gyfartaledd roedd y bobol yma yn yfed 92.2ml o ddiodydd pop neu sudd y dydd.

Yn ôl y canlyniadau, roedd y risg o bob math ganser yn codi i 18% i bob 100ml yn ychwanegol, tra roedd o’n codi o 22% i ganser y fron.

I’r rhai oedd yn yfed y mwyaf o ddiodydd pop, ar gyfartaledd 185ml y dydd, ac a oedd wedyn yn yfed 100ml ychwanegol, roedd y risg yn codi i 30%.