Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y corff sy’n goruchwylio cystadleuaeth mewn marchnadoedd, ar ôl i Amazon brynu cyfran sylweddol o gwmni Deliveroo.
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cadarnhau y bydd yn edrych ar y posibilrwydd bod y cwmni wedi torri rheolau cystadleuaeth.
Roedd Amazon wedi buddsoddi yn y cwmni dosbarthu bwyd yng ngwledydd Prydain, Deliveroo, ym mis Mai.
Mae Amazon yn dathlu chwarter canrif ers ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 5).